gwyliau bwyd 2012

Rhannu |

Dyddiadau gŵyl

Dydd Sadwrn 11eg a Dydd Sul 12 Awst, 2012

Newyddion Diweddaraf

Ffurflenni archebu ar gyfer 2012 ar gael yn fuan

gwyliau blaenorol

Mae Gwyl Afon a Bwyd Aberteifi wedi tyfu ac mae bellach yn denu miloedd o bobl i'r dref bob blwyddyn

gwyliau bwyd - haf 2012

Mae Gŵyl Afon a Bwyd Aberteifi wedi tyfu ac mae bellach yn denu miloedd o bobl i'r dref bob blwyddyn. Mae'r ŵyl yn dathlu Afon Teifi a hynny drwy ddigwyddiadau sy'n amrywio o gychod rasio i rasio hwyaid. Darperir adloniant drwy gydol y dydd a gall y plant gymryd rhan mewn dewis helaeth o wahanol weithgareddau.

Ond bwyd sydd wrth galon yr Ŵyl – y dewis o fwydydd sy'n cael eu tyfu neu eu paratoi yn yr ardal a safon y busnesau bwyd yn y rhan hon o Gymru, ac yn eu plith nifer o enillwyr Gwir Flas. Mae'r diwrnod yn rhoi cyfle i gynhyrchwyr bwyd lleol arddangos eu cynnyrch i drigolion yr ardal ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Cofiwch ymuno â ni – fe fydd digon i'w fwyta, i'w weld a'i fwynhau, felly galwch draw ac fe gewch flas o Aberteifi!

Demonstration

manylion cyswllt

ffoniwch y swyddfa ar:
01239 613311

ebost festivals@fecb.co.uk