gwyliau bwyd - aberteifi
Cynhelir Gŵyl Afon a Bwyd Aberteii 2012 Dydd Sadwrn 11eg a Dydd Sul 12 Awst. Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ym maes parcio Stryd y Cei yn Aberteifi wrth ymyl Afon Teifi. Mae'r ŵyl yn denu tua 8,000 o ymwelwyr, a mwy na 70 o arddangoswyr bwyd, diod a chrefftau.
Dyma'r ŵyl fwyd fwyaf yn Ne-orllewin Cymru, sydd wedi hen ennill ei phlwyf, a hon fydd ein 13eg blwyddyn o drefnu'r ŵyl lwyddiannus hon. Yr arddangosiadau coginio yw un o atyniadau mwyaf poblogaidd yn yr wŵyl, a rhai ohonynt yn cynnwys cogyddion adnabyddus.
Mae nifer o atyniadau eraill yn rhan o'r ŵyl fel cerddoriaeth fyw, digwyddiadau ar yr afon, gweithgareddau i blant ac adloniant yn y stryd
Os hoffech fwy o fanylion, cysylltwch â'r Tîm Gwyliau a Digwyddiadau ar 01239 613311, neu anfonwch e-bost i festivals@fecb.co.uk

