ADLONIANT
Yn ôl yr arfer, byddwn yn cynnig adloniant trwy gydol y dydd o’n pabell Cwrt Bwyd mawr. Mwynhewch olygfa odidog o’r afon, y gwerthwyr bwyd stryd rhagorol a’r bariau dros dro o’ch amgylch.
DAF WYN REES
Cyflwynydd
Efallai y byddwch yn adnabod Daf o ‘Heno’ ar S4C, lle mae eisoes wedi cyfweld â dyrnaid o’n cogyddion a’n harddangoswyr gwych!
Gyda’i wybodaeth am yr ardal leol (gan mai crwt o Landoch ydyw) a’i bersonoliaeth siriol, bydd Daf gyda ni trwy’r dydd i gyhoeddi’r amserlen, eich diddanu gydag ychydig o sgwrsio ac i siarad â’n gwesteion arbennig.
DJ preswyl
Ai plentyn y gors wedi’i grefftio o fwdw neu Gymro dan fwgwd yw hwn? Mae’r barnau ohono’n gymysg ond yn sicr, bydd cymysgedd aml-genre Snaggle o gerddoriaeth ffync, tŷ, reggae, dyb ac electroswing yn eich cymell i dapio’ch traed trwy’r dydd.
10 - 10.45am
Paz ‘The Jungle Man’
Rydym yn gyffro i gyd o gynnwys ‘Jungle Cubs’ am y tro cyntaf –bydd y rhain yn cynnig cymysgedd penigamp o gemau i’r blynyddoedd cynnar, gwisgo lan mewn dillad saffari a seiniau cerddoriaeth rêf! Bydd y rhain yn agor y brif safle cyn arwain gorymdaith i’r ardal hwyl i deuluoedd ‘Parti ‘da Barti’ yn y Castell. Da chi, peidiwch â’i golli.
Mae Paz eisoes wedi’i weld yn Unearthed in the Field a Neuadd y Frenhines yn Arberth, wedi’i amgylchynu gan anifeiliaid meddal, system sain a hanner ar droli a rhieni sy’n mwynhau eu hunain llawn cymaint â’r plant.
12.30 - 2pm
Bydd y band swing pum darn byw hwn yn eich peri i godi a dawnsio, gyda byrgyr a pheint yn eich llaw.
Maen nhw hefyd yn chwarae cerddoriaeth bop a Lladin gyda ‘naws jazz’ iddynt. Efallai y byddwch chi eisoes wedi gweld No Mean Biscuit yn canu yng ngŵyl Aberjazz a’r Ardd Fotaneg Genedlaethol.
3.15 - 5pm
Efallai y byddwch chi wedi clywed amdanyn nhw – nawr ewch i’w gweld nhw’n perfformio! Backtrax fydd y prif berfformwyr yn yr ŵyl eleni, gan ddod â hen ffefrynnau roc i wneud ichi daro’ch traed a cherddoriaeth amser da yn byrlymu o egni i chi.
O Elvis Presley i’r Kings of Leon, Chuck Berry i’r Stereophonics, mae gan Backtrax rywbeth bach at ddant pawb, felly byddwch yn barod am brynhawn gwych o gerddoriaeth yng nghanol Aberteifi!