YMWELWYR

 

 

Mae Gŵyl Afon a Bwyd Aberteifi’n brosiect adfywio cymunedol, sydd bellach yn ei 26ain blwyddyn. Digwyddiad di-elw ydyw lle mae’r arian a grëir yn mynd yn ôl i’n cymuned, gan gefnogi arlunwyr a chyflenwyr lleol.

 

Mae cyllid grant a’ch tocynnau mynediad yn gwneud y digwyddiad hwn yn bosibl.

 

FFIOEDD A BREICHLEDI MYNEDIAD

OEDOLION (dros 18 oed) // £5 

PLANT (0-17 oed) // mynediad am ddim




SUT MAE CYRRAEDD?

 

PARCIO A THEITHIO

 

Rydym yn eich cynghori i beidio â pharcio yn y dref, gan fod yr Ŵyl yn y prif faes parcio, a fydd ar gau rhwng 6yh. nos Wener 14 Awst a 9yh. nos Sadwrn 15 Awst.

 

Bydd dau fws gwennol yn cludo ymwelwyr AM DDIM ar y dydd Sadwrn, rhwng 8yb a 6.30yh.

 

Dilynwch yr arwyddion a pharcio ar Gae Briscwm, ar yr A487